Pelydrau Cosmig a'r Celfyddydau
Gwefan prosiect RAS200
Mae'r orsaf hon yn rhan o RAS200: Seryddiaeth a Geoffiseg trwy brosiect Diwylliant Traddodiadol Cymru.
Ochr yn ochr â'r ymchwil wyddonol sy'n digwydd, rydym wedi bod yn rhan o brosiectau allgymorth mewn sawl ysgol gynradd ar draws Cymru, i ddatgelu cynulleidfa newydd i'r gwyddorau ffisegol. Mae'r prosiectau hyn wedi'u harddangos yn Eisteddfod yr Urdd, un o wyliau ieuenctid teithiol mwyaf yn Ewrop. Mae hyn yn dod â gwyddoniaeth i galon yr iaith Gymraeg a’i dathliad diwylliannol.
-
Canfasau Cosmig yn Ynys Môn, 2017
Gwnaeth plant o sawl ysgol gynradd yn Ynys Môn gweithio hefo’r arlynydd Catrin Williams a Professor Karen Aplin, i gynhyrchu canfasau ar thema pelydr cosmig. Fe roedd sawl canfasau'n yn cael eu harddangos yn ardal baratoi'r perfformwyr yn Eisteddfod Ynys Môn yn 2017. Mae dau o'r canfasau yn bellach yn cael eu harddangos yng nghyntedd y Labordai Addysgu Ffiseg ym Mhrifysgol Rhydychen, ac un arall y tu allan i'r Labordy Lloeren ym Mhrifysgol Bryste.
-
Dawns yn Eisteddfod yr Urdd, 2019
Cyflwynodd Martin Nelmes (Ffiseg Aberystwyth) a Dr Karen Aplin (Peirianneg Awyrofod Bryste) sgwrs ar dywydd y gofod a phelydrau cosmig i Ysgol Gymraeg Bro Eirwg yng Nghaerdydd ym mis Chwefror 2019. Yna, buont yn gydweithio gyda'r coreograffydd Eddie Ladd i baratoi dawns o thema pelydr gosmig, a berfformiwyd yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro yn 2019.